Ymateb i Ymgynghoriad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol:

Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Medi 2021

TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yw corff diwydiant y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Mae’r sector yn rhan hynod bwysig o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac yn y DU ehangach, ac mae’n creu buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol drwy gyflenwi cynnwys creadigol. Mae dros 50 o gwmnïau’n gweithio yn y sector, sy’n amrywio o gynhyrchwyr unigol i rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r diwydiant darlledu yn y DU. Mae aelodau TAC yn cynhyrchu cynnwys i’r BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky ynghyd â darlledwyr masnachol eraill. Maent yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o gynnwys gwreiddiol teledu llinol ac ar-lein S4C, ac yn cynhyrchu amrywiaeth o arlwy radio i rwydweithiau ledled y DU.

 

Mae’r papur hwn yn ymateb i’r tri chwestiwn a ofynnwyd gan y Pwyllgor yn ei gais am dystiolaeth wrth gynllunio ei blaenraglen waith ar gyfer y Chweched Senedd.

 

Beth yw effaith pandemig Covid-19 ar hyn o bryd, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru effaith y pandemig a galluogi adferiad yn dilyn y pandemig?

 

Mae'r sector cynhyrchu teledu yn parhau i wynebu heriau sylweddol oherwydd effaith Covid-19. O fis Mawrth 2020 tan yr haf, cafodd cynyrchiadau mewn nifer o genres eu canslo neu eu gohirio; yn bennaf darlledu byw, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon a chynyrchiadau drama. Fe gynyddodd costau cynhyrchu’n sylweddol yn sgil gweithredu rheoliadau iechyd a diogelwch newydd mewn swyddfeydd ac ar gynyrchiadau, ac oherwydd effaith y pandemig ar gost yswiriant. Mae’r materion hyn yn parhau i ennyn cryn ansicrwydd yn y sector o ran llif arian a’r gallu i gyflogi talent cynhyrchu parhaol a llawrydd yn y tymor canolig a’r tymor hir.

 

Roedd yn hanfodol i’r diwydiant teledu a ffilm sefydlu canllawiau iechyd a diogelwch penodol ar gyfer gweithio o dan amodau Covid-19. Bu TAC yn rhan o’r consortiwm o ddarlledwyr a chyrff y diwydiant fu wrthi’n datblygu a diweddaru’r canllawiau hyn wrth i’r sector ailgydio yn ei waith, a bu’r canllawiau’n allweddol wrth i amgylchiadau gwaith lacio ac yna tynhau eto cyn mynd i gyfnod clo arall cyn y Nadolig. Mae nifer o gwmnïau wedi cyflogi arbenigwyr diogelwch ychwanegol yn ogystal. Yn amlwg, mae materion iechyd a diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ddiogelu timau a chriwiau cynhyrchu a chyfranwyr ac artistiaid, gan gynnwys ystyriaethau iechyd meddwl.

 

Mae materion sy’n ymwneud â’r amgylchedd yn gynyddol bwysig i aelodau TAC wrth i gynhyrchu gynyddu i lefelau cyn Covid-19 unwaith eto. Mae S4C yn cydweithio gyda’r sector ar hyn o bryd i gyflwyno cynllun cynhyrchu cynaliadwy Albert i’w trefn gomisiynu, ac yn y cyfamser, mae dulliau gweithredu sy’n fwy llesol i’r amgylchedd yn cael eu cyflwyno gan ganran gynyddol o’r sector annibynnol.

 

Bu effaith y pandemig ar fusnesau cynhyrchu yn amrywiol. Er bod digwyddiadau a chwaraeon wedi diflannu o’r amserlen, a chynyrchiadau megis drama wedi cau dros dro, fe barhaodd cwmnïau i gynhyrchu cynnwys o safon i’r gynulleidfa tra eu bod yn addasu eu ffordd o weithio i greu rhaglenni newydd ac arloesol o dan amodau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen. Roedd eu hymateb hyblyg, creadigol ac ymarferol yn syfrdanol, ac yn allweddol i allu S4C i ofalu am eu cynulleidfa yn ystod misoedd cynnar anodd y pandemig.

 

Fe ddefnyddiodd amryw o aelodau TAC becynnau cymorth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau gan gynnwys: Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes (CBILS), Cynllun Cadw Swyddi (ffyrlo), benthyciadau Bounce Back, Cynllun Gohirio TAW, Rhyddhad Ardrethi Busnes, cronfa Datblygu Digidol Brys a chronfa Teledu Brys Cymru Greadigol, Cronfa Cadernid Economaidd a grant Busnesau Bach.

 

Mae ymchwil gan Ofcom wedi dangos pa mor bwysig oedd y cyfryngau i drigolion Cymru a’r DU gyfan yn ystod y pandemig a phwysigrwydd darlledu cyhoeddus wedi cael ei amlygu, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. Roedd cynnwys rhaglenni oedd yn adlewyrchu'r sefyllfa ac yn darparu newyddion a gwybodaeth o safon, ynghyd â chysur ac adloniant i gynulleidfaoedd yn werthfawr tu hwnt. Yn sicr, mae’r diwydiannau creadigol yn ganolog i gyfnod yr adferiad, yn economaidd ac yn gymdeithasol.

 

Mae’r diwydiant darlledu yng Nghymru’n aros am gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â setliad ariannol S4C ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn peri ansicrwydd ar hyn o bryd ar ben yr ansicrwydd mae’r pandemig wedi ei greu. Mae TAC wedi cefnogi cynnig S4C am gynnydd yn ei gyllideb er mwyn sicrhau bod y gyllideb rhaglenni’n parhau i fod yn ddigonol, ac i’r cynnwys sy’n cael ei greu fod ar gael ar draws y nifer ehangaf posibl o blatfformau, yn unol â’r adolygiad annibynnol o S4C yn 2018. Mae’n rhaid sicrhau setliad teg os am dyfu a chynnal sector cynhyrchu creadigol cryf a bywiog i’r dyfodol.

 

Nid yw’n hysbys beth fydd effeithiau tymor hir y pandemig na pha mor hir bydd y sefyllfa hon yn parhau. Mae’r diwydiant darlledu angen sicrwydd y bydd unrhyw gyngor a chefnogaeth i’r dyfodol yn cael ei drefnu a’i deilwra yn gywir tuag at anghenion y sector. Mae angen i gymorth ariannol gael ei glustnodi a’i dargedu yn ôl yr angen â digon o hyblygrwydd o fewn y broses i ddiwallu’r anghenion.

 

Mae llawer o gwmnïau wedi cynyddu lefel eu risg yn ariannol ac o ran cyflogaeth yn ystod y pandemig. Mae angen cymorth ariannol i’r cwmnïau nad sydd wedi hawlio cymorth hyd yn hyn, a hefyd i gefnogi’r cwmnïau sydd wedi cymryd lefel risg mwy yn ystod cyfnod cychwynnol Covid-19 yn y 18 mis cyntaf.

 

Mae buddsoddiad parhaus i gynnal a datblygu sgiliau’r sector cynhyrchu yn hollbwysig. Mae TAC ac S4C wedi sefydlu partneriaeth hyfforddiant i ddiwallu anghenion y sector ers 2018. Pan ddaeth y pandemig, fe fudodd y cyrsiau i fod ar-lein ar unwaith. Yn 2020, daeth 500 o weithwyr i 33 o sesiynau hyfforddiant mewn 16 o wahanol feysydd, ac mae llefydd am ddim wedi bod ar gael i weithwyr llaw-rydd gydol y cyfnod i’w cefnogi mewn cyfnod anodd. Byddai TAC yn croesawu cymorth a chefnogaeth bellach i adeiladu ar y gwaith hwn gan y Pwyllgor yn ogystal â Chymru Greadigol.

 

Bu’n gyfnod arbennig o heriol i weithwyr llaw-rydd, gan fod cynifer o gynyrchiadau a chyfresi wedi cael eu canslo neu eu gohirio yn sgil y pandemig. Wrth i nifer o gynyrchiadau ailgydio gyda’r ffilmio eleni, ac wrth i Gymru hefyd ddenu nifer cynyddol o gomisiynau rhwydwaith ac o dramor, fe amlygwyd sefyllfa o brinder gweithwyr mewn rhai meysydd penodol, yn cynnwys meysydd arbenigol fel cyfarwyddo, rheoli cynyrchiadau, golygu a sain.

Un elfen bositif ynglŷn â chyfathrebu a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig yw nad yw cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhwydweithio sy’n golygu teithio bob amser yn angenrheidiol erbyn hyn. Mae TAC yn gobeithio bydd comisiynwyr y darlledwyr cyhoeddus a masnachol yn ymgysylltu’n fwy gyda’r sector yng Nghymru yn y dyfodol gan ddefnyddio technoleg cynadledda fideo ar-lein. Bydd hyn yn caniatáu gwell mynediad i gynhyrchwyr yng Nghymru at gomisiynwyr wedi eu lleoli yn Llundain ac mewn mannau eraill. Gan fod aelodau TAC wedi eu lleoli ym mhob rhan o Gymru, hoffem i’r Pwyllgor ystyried ymgysylltu’n fwy â’r sector drwy ddefnyddio’r dulliau ar-lein hyn hefyd. Mae hwn yn gyfle euraid i gynyddu cyswllt rhwng y diwydiant cynhyrchu a’r Senedd.

 

Pa faterion ddylai’r pwyllgor eu blaenoriaethu wrth gynllunio ein rhaglen waith ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir?

 

Mae'r sector darlledu a chynhyrchu yn elfen bwysig iawn o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru a’r DU. Mae’r pandemig wedi tanlinellu pa mor bwysig yw maes y cyfryngau i’n bywydau sy’n ganolog i ddiwylliant bywyd Cymru. Fe dalodd yr ymdrechion i barhau i ddarparu cynnwys deniadol o safon ar ei ganfed gyda chynnydd sylweddol yn ffigurau gwylio S4C.

 

Mae gan y Senedd a Llywodraeth Cymru eisoes hawl i graffu ar waith Ofcom yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y cytunwyd arno yn 2017 gan Lywodraeth y DU, y Senedd, Llywodraeth Cymru ac Ofcom. Mae TAC yn ymgysylltu ag Ofcom yng Nghymru ac yn Llundain, ac mae’r rheoleiddiwr yn awyddus i drafod materion y diwydiant gyda ni yn rheolaidd, gan gynnwys eu hymgynghoriad cyfredol ‘Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr’. Mae angen sicrhau bod y Pwyllgor yn manteisio ymhellach ar yr hawl statudol i graffu ar waith Ofcom a pharhau i gydweithio gyda DCMS.

 

Mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru hefyd yn chwarae rhan fwy blaenllaw wrth ddwyn y BBC i gyfrif erbyn hyn. Er bod cyfran sylweddol o gynnwys a wneir yng Nghymru’n cael ei gynhyrchu’n fewnol, mae’r BBC yn gweithio gyda’r sector cynhyrchu yng Nghymru drwy BBC Cymru Wales a’r comisiynwyr rhwydwaith. Eto, mae angen sicrhau bod y Pwyllgor yn manteisio ymhellach ar yr hawl statudol i graffu ar waith y BBC a pharhau i gydweithio gyda’r DCMS ac Ofcom wrth iddynt adolygu rheoleiddio’r BBC yn 2021-22.

 

O ran darlledu yng Nghymru, mae angen sicrhau bod rhaglenni digonol sydd yn adlewyrchu Cymru a’i phobl ar gael gan ddarpariaeth Saesneg y darlledwyr cyhoeddus, gan gynnwys BBC Cymru, a bod lle i gwmnïau sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru greu cynnwys i’r darlledwyr rheini. Roedd TAC yn falch o weld y newyddion a gyhoeddwyd ddechrau mis Medi am y Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Cymru Greadigol a’r BBC, a buasem yn argymell i’r Pwyllgor fanteisio ar ei hawl i graffu ar hwn wrth iddo ddatblygu dros y tair blynedd nesaf.

 

Yn yr oes aml-blatfform hon, mae TAC o’r farn y dylai rheoleiddio darlledu cynnwys teledu llinol, radio a chynnwys aml-blatfform ym mhob genre, gan gynnwys newyddion a materion cyfoes. Yn ogystal, rydym o’r farn y dylai sicrhau lluosogrwydd y ddarpariaeth newyddion i Gymru fod yn rhan o waith rheoleiddiwr darlledu.

 

Mae TAC o’r farn y gallai fod gan y Pwyllgor rôl gynyddol i weithio mewn partneriaeth ac adeiladu ei berthynas gyda’r sector cynhyrchu. Mae’n hanfodol i Senedd a Llywodraeth Cymru drafod ac ymgysylltu yn rheolaidd gyda’r diwydiant a throsglwyddo'r negeseuon am anghenion y diwydiant yng Nghymru i San Steffan. Dylai craffu ar weithgareddau S4C fod yn flaenoriaeth i’r Pwyllgor er mwyn sicrhau bod y sianel yn cyflawni ei dyletswyddau statudol.

 

Mae TAC yn croesawu dyfodiad cynyrchiadau i Gymru o weddill y DU ac o dramor, ond rhaid sicrhau nad yw hynny yn cael effaith negyddol ar y sector yma. Efallai byddai modd gefeillio cwmni cartref a chwmni sy’n dod yma i ffilmio er lles y cynhyrchiad a’r sector cartref, yn enwedig ym maes sgiliau.

 

Mae TAC yn awyddus i’r Pwyllgor edrych yn greadigol ar sut mae’r pynciau a’r meysydd o fewn ei gylch gorchwyl yn cysylltu â’i gilydd.

 

Mae darlledu a’r iaith Gymraeg yn ddau faes amlwg sydd â chydberthynas glós o fewn y pynciau. Cwmnïau’r sector yng Nghymru sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o raglenni S4C, gan bortreadu pobl Cymru, ein straeon a’n bywydau i gynulleidfa gartref, i weddill y DU a’r byd. Mae gan S4C a’r cwmnïau cynhyrchu drwy eu rhaglenni hefyd ran allweddol i’w chwarae wrth geisio cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Sut mae Brexit a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio arnoch chi a’ch sefydliad? Pa gymorth ydych chi wedi’i gael i ymateb i’r newidiadau? Pa gymorth pellach, os o gwbl, sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

 

Bu’r broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn achos tipyn o ansicrwydd yn y diwydiant darlledu, ac wedi achosi pryderon am y posibilrwydd y byddai effaith negyddol sylweddol ar y farchnad. Roedd pryderon am y goblygiadau hir dymor i gynhyrchu wrth iddi fynd yn anoddach i dalent ar y sgrin a chriw technegol ddod i'r DU ac i gwmnïau ffilmio yn yr Undeb Ewropeaidd yn sgil gweithdrefnau gweinyddol mwy beichus a chostau ychwanegol, yn ogystal â newid trefn mynediad i farchnadoedd yr UE. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU barhau i ddatblygu cymorth a chefnogaeth bellach yn lle’r rhwydweithiau cymorth sydd wedi eu dileu neu eu lleihau.

 

Yn dilyn ymadawiad y DU o’r UE, mae TAC y gweld bod rôl hollbwysig i’r Senedd a Llywodraeth Cymru gydweithio yn gynyddol â Llywodraeth y DU a DCMS mewn perthynas â chysylltiadau â’r Undeb Ewropeaidd a materion rhyngwladol i gefnogi a chodi proffil y sector cynhyrchu yng Nghymru ymhellach.

 

Mae cysylltiadau rhyngwladol yn elfen hollbwysig i’r diwydiant darlledu yng Nghymru. Mae gwerthiant rhaglenni a fformatau tramor wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae aelodau TAC yn brofiadol mewn cydgynyrchiadau gyda darlledwyr a dosbarthwyr rhyngwladol. Mae hyn wedi creu marchnad gynhyrchu teledu bywiog y mae'r sector yng Nghymru wedi ceisio manteisio'n llawn arno. Felly mae’n bwysig iawn i lwyddiant economaidd y sector iddo gael ei ystyried yn rhan o ddiwydiannau creadigol ehangach y DU, o ran polisi ac o safbwynt darlledu rhyngwladol.

 

Mae diwydiannau creadigol Cymru yn gyffredinol yn cynnig cyfle am dwf sylweddol, ac maent yn cefnogi llawer o ddiwydiannau cysylltiedig, gan gynnwys arlwyo, trafnidiaeth, crefftwaith, ffasiwn a dylunio. Mae cydgynyrchiadau llwyddiannus a chyfresi sy’n gwerthu dramor hefyd yn helpu i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth.

 

Bu rhywfaint o gyllid grant ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchwyr ymweld â marchnadoedd rhaglenni rhyngwladol ar un adeg. Byddai adfer cyllid o’r fath yn help garw yn dilyn y newidiadau i reolau teithio a masnachu gyda gwledydd yr UE. Mae’n bwysig cynyddu arbenigeddau yn y sector yng Nghymru a chynnal a thyfu ei broffil rhyngwladol. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i gwmnïau hyfforddi eu staff i weithio'n rhyngwladol, felly mae cymorth grant ar lefel Llywodraeth Cymru a’r DU yn bwysig iawn.

 

O ran parhau i ddenu buddsoddiad mewn cynhyrchu yn y DU yn gyffredinol, mae'n hanfodol fod y system bresennol o ostyngiad trethi, gan gynnwys ar gyfer ffilm, cynyrchiadau teledu pen ucha’r farchnad, animeiddio a rhaglenni plant yn parhau, a byddai’n fuddiol i’r sector yng Nghymru petai modd gostwng lefel y mynediad oherwydd bod lefel cyllidebau gymaint yn is na’r comisiynau mwyaf costus.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio cynnal perthynas gyda rhaglen Creative Europe Media, sef rhaglen ariannu ar gyfer y sectorau diwylliannol a chreadigol o fewn yr UE. Er enghraifft, cafodd y cwmni Fiction Factory swm o arian i gefnogi cynhyrchiad Y Gwyll / Hinterland. Bu’r cyfresi’n llwyddiant rhyngwladol sylweddol, gan gyflwyno cynnyrch drama S4C i gynulleidfaoedd newydd a pharatoi'r ffordd ar gyfer dramâu eraill.

 

Mae angen i Lywodraeth y DU fod yn glir ynghylch pan ffynonellau cyllid fydd yn dod yn lle’r cynllun hwn, sydd hefyd wedi galluogi i gwmnïau yng Nghymru gydweithio gyda gwledydd eraill â ieithoedd lleiafrifol, megis Iwerddon, Catalunya a Gwlad y Basg. Mae angen sicrwydd pa gyllid fydd ar gael i gefnogi’r diwydiant yn y dyfodol a sicrhau cyllid hanfodol i gwmnïau, cynyrchiadau a mentrau amrywiol. Byddai methu â chynnal y ffrwd ariannu hon yn tynnu cyllid pwysig yn ôl ar adeg pan fo'r diwydiant yn datrys problemau ariannol eraill yn sgil Covid-19 .

 

Hoffai TAC weld Senedd Cymru yn datblygu cysylltiadau newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a grŵp darlledwyr yr EBU hefyd er mwyn cryfhau’r berthynas rhwng y Senedd a gwledydd eraill yng nghyd-destun darlledu yn benodol. Efallai gallai’r Pwyllgor archwilio posibiliadau creu partneriaeth newydd o’r math hwn.